Ar y Gweill


Cyfarfod Blynyddol 2010:
Cynhelir Cyfarfod Blynyddol 2010 yn Nghroesoswallt ar 11/12 Mehefin.

Paciau Dysgu ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol:
Mae Tegid Roberts, Cyfarwyddwr Addysg Esgobaeth Bangor ac aelod o'r Gymdeithas, wedi bod yn gweithio ar gynhyrchu defnydd addysgol am Wenllian ar gyfer plant ysgol. Mae pecyn Cyfnod Allweddol Dau wedi'i gwblhau ond heb ei gyhoeddi.

Gwladus, cyfnither Gwenllian, yn lleiandy Six Hills ger Market Rasen:
Bwriedir rhoi gwybodaeth am Wladus yn yr Eglwys leol.  Mae pobl yr ardal yn arfer sôn am "Fedd y Dywysoges Gymreig".

Y Plant Coll - ai dros y môr y cawsant eu cludo o Gymru i Swydd Lincoln?
Mae'r Gymdeithas ati yn archwilio'r hanes.

Grwp lleol arfaethedig:
Awgrymwyd y gellid sefydlu grwp lleol Gwenllian, wedi'i seilio ar Sempringham, ar gyfer aelodau sydd yn byw mewn rhannau cyfagos o Loegr. A fyddech cystal â rhoi gwybod i'r Gwefeistr os oes gennych ddiddordeb mewn ymaelodi â'r grwp hwn?

 

Newyddion


Mae'n swyddogol! Mae Carnedd Uchaf bellach yn Garnedd Gwenllian!
(cliciwch yma am fwy o fanylion)

Yr Yw yn Six Hills
Mae Rob Evans, daearegydd ac aelod i'r Gymdeithas, wedi darparu gwybodaeth i'r Grwp Ymwybyddiaeth Goed Swydd Lincoln (TAG) am y 9 Ywen yn Six Hills ar Weundiroedd Swydd Lincoln. Honnir bod gan yr yw hyn gysylltiad â bedd Gwladus, cyfnither Gwenllian. Cynhwyswyd y wybodaeth hon, ynghyd â ffoto a llinlun yr yw, yn yr adran chwedlau mewn llyfr TAG ar '40 o Goed Arbennig Swydd Lincoln' a gyhoeddwyd ym mis Medi 2009. Diolch o galon i'r holl bobl leol sydd yn gofalu mor ffyddlon am y safle o'u gwirfodd!