| Hanes y Gymdeithas
1991 - Ysgrifennodd Byron Rogers erthygl am Wenllian yn y Guardian.
1993 - Gosododd y Capten Richard Turner, a oedd wedi darllen yr erthygl, gofeb i Wenllian yn Sempringham.
1996 - Sefydlwyd y Gymdeithas er mwyn gofalu am y gofeb a chadw cof Gwenllian yn fyw.
1998 - Cynhaliwyd Cyfarfod Blynyddol cyntaf y Gymdeithas yng Ngarth Celyn, man geni Gwenllian.
1999 - Gofynnodd y Daily Mirror mewn pôl teleffôn "A ddylai dydd marwolaeth Gwenllian ddod yn Wyl Genedlaethol?" Atebodd 96% "Dylai".
2000 - Fandaleiddiwyd y gofeb yn Sempringham.
2001 - Gosodwyd cofeb newydd, fwy iddi yn Sempringham.
2008 - Gosodwyd Llechen Deyrnged i Wenllian ar gopa'r Wyddfa. |