| Gwenllian
- Cerdd gan T James Jones
Gwaith y Prifardd T James Jones (2008).
Cyhoeddir fan hyn gan ganiatâd y bardd.
Gwenllian
(ar ôl ei gweld fel lleian gwflog
yn ei charreg goffa grai yn Sempringham)
Ein hangof a'i caethiwodd
i fynwent ei chwfaint
a'i dirwest.
Ein hangof a'i tynghedodd
i rythu a rhythu ar furiau
heb fenest.
Ein hangof a wadodd iddi
wrth gloi a chrino'i chroth
gynnwrf un don.
Ein hangof a'i halltudiodd
i fro heb ben mynydd
na haul ar fron.
Ein hangof a'i condemniodd
i farw heb ei geni'n fam
i'n hanwylo.
Fe'i rhyddhawn o'i hirbell
pan fynnwn allwedd
i agor ein hatgof.
|